Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad ar Gwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol

19 Mawrth 2015

12.15 – 13.30

Ystafell Friffio’r Cyfryngau

Cynlluniau ynni gwyrdd cymunedol

 

Aelodau’r Cynulliad yn bresennol

Mick Antoniw (Cadeirydd)

Alun Ffred Jones

Yr Ysgrifenyddiaeth

Alex Bird (Cadeirydd, Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru)

Siaradwyr

Jeremy Thorp (Sharenergy) a Neil Lewis (Cronfa Bancio Gymunedol Robert Owen - ROCBF)

Gwesteion

David Parker (Canolfan Cydweithredol Cymru), Ceri-Anne Fidler (Canolfan Cydweithredol Cymru) George Ruelibusch (Cynulliad Cymru) Karen Wilkie (y Blaid Gydweithredol) a thri arall

 

Agorodd Mick Antoniw AC (y Cadeirydd) y cyfarfod am 12.30, gan groesawu’r gwesteion a chyflwyno’r siaradwyr.

Siaradodd Jeremy Thorp am ei rôl yn gweithio i Sharenergy, cwmni cydweithredol sy’n gweithio ledled y DU o’i ganolfan yn yr Amwythig, gan ddarparu cymorth i brosiectau rhyddhau cyfranddaliadau mewn ynni cymunedol.

Mae’r rhan fwyaf o gynlluniau ynni cymunedol yn dewis codi arian drwy ryddhau cyfranddaliadau i’r cyhoedd, gan fod hyn yn rhoi cyfradd llog is i’r sefydliad tra’n rhoi enillion gwell i’r buddsoddwr na gweithio gyda banc neu ffynhonnell debyg o gyllid.

Beth yw’r rhwystrau i Gynlluniau Ynni Cymunedol Cynlluniau o’r fath ddatblygu? Yn gyffredinol, maent ar raddfa lai o’u cymharu â datblygiadau masnachol, sy’n cynyddu’r gyfran o amser / ymdrech / arian a dreulir ar orbenion. Hefyd, mae’r cyfnodau risg cynnar yn anoddach mynd drwyddynt, yn arbennig ar gyfer cynlluniau hydro lle mae angen cryn ymdrech ac arian dim ond i gael yr holl gytundebau yn eu lle. Nid yw rhai o’r Cyrff a Noddir gan y Cynulliad yn cynnig digon o gymorth, ac nid oes proses effeithiol er mwyn troi at ganolwr neu ombwdsmon.

Mae yna gyfle gwych i Awdurdodau Lleol, y Cynulliad a chyrff cyhoeddus eraill gydweithio gyda’r gymuned, yn enwedig gan fod ganddynt ystadau mawr sy’n addas ar gyfer prosiectau cynhyrchu cymunedol.

Siaradodd Neil Lewis am ddatblygiad nifer o gynlluniau a gefnogir gan y Gronfa Ynni Cymunedol ROCBF. Mae’r Gronfa hon, sy’n werth dros £1 miliwn, yn gweithredu fel tanysgrifennwr i gynlluniau, gyda’r nod, fel arfer, o dalu unrhyw fenthyciadau yn ôl drwy ryddhau cyfranddaliadau.

Mae rhai o’r cynlluniau hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn. Cododd Anafon Hydro, cynllun 270kW wedi’i leoli mewn pentref o 250 o bobl, dros £450,000 drwy ryddhau cyfranddaliadau gyda’u cefnogaeth. Mae Cymoedd Gwyrdd Llangatwg yn gynllun hynod lwyddiannus arall.

Fodd bynnag, gall fod rhwystrau, yn arbennig gyda chynlluniau hydro. Mae Ynni Sir Gâr wedi wynebu oedi hir wrth aros am drwydded tynnu, ac mae’r oedi hwn yn cynyddu costau.

Mae cynllun Robert Owen Renewables ym Mhenarth Weir, i’r gogledd o’r Drenewydd, wedi gorfod dod i ben, oherwydd nid yw Cadw yn caniatáu unrhyw newidiadau i’r llwybr pysgod presennol, sy’n heneb restredig Gradd II ac yn safle arfaethedig ar gyfer generadur Sgriw Archimedes. Yr hyn sy’n eironig yw nad yw’r llwybr pysgod yn gweithio–mae un newydd wedi’i gynnig–ac mae’r pysgod silio hyd yn hyn wedi gorfod neidio dros y gored ei hun.

Hefyd, mae Gŵyr Power wedi gorfod apelio yn erbyn gwrthwynebiadau i gynllun arfaethedig ar gyfer paneli solar ffotofoltaig ar y tir, y mae rhai ohonynt wedi dod o bobl sy’n hawlio effaith weledol er na allant mewn gwirionedd weld effeithiau’r cynllun.

Mae cynllun arall yn Deep Navigation, gyda’r nod o ddefnyddio’r dŵr sy’n arllwys allan o’r hen weithfeydd mwyngloddio, wedi cael ei ohirio oherwydd bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi cymryd 3 blynedd i drafod telerau prydles ar y tir.

Yn Evanstown, mae’r gofyniad gan Adnoddau Naturiol Cymru fod arolwg pysgod yn cael ei gynnal, er bod y dŵr yn oren llachar oherwydd llygredd, unwaith eto wedi achosi oedi.

Cafodd y rhwystrau eu crynhoi gan Neil fel a ganlyn:

·         System gynllunio yn cymryd gormod o amser

·         Adnoddau Naturiol Cymru yn cymryd gormod o amser i wneud penderfyniadau

Teimlai Neil mai’r rheswm am hyn, yn ôl pob tebyg, oedd bod Adnoddau Naturiol Cymru yn ofni gwneud camgymeriad, ond mai peidio â gwneud penderfyniad, i bob pwrpas, yn benderfyniad i oedi.

Cwestiynau a sylwadau:

Awgrymodd Alex Bird y dylai systemau Cynllunio a Chaniatâd fod â “rhagdybiaeth i ganiatáu”; felly, os na fyddai awdurdodau’n cyflwyno gwrthwynebiadau rhesymegol o fewn cyfnod penodol o 6 mis, er enghraifft, byddai caniatâd yn cael ei roi yn awtomatig. Nododd y Cadeirydd fod hyn eisoes yn digwydd gyda Siopau Betio.

Tynnodd Jeremy Thorp sylw at y cyfleoedd gwych i ddatblygu solar ffotofoltaig ar doeau tai cymdeithasol, lle mae’r gymuned yn cael y Tariff Cyflenwi Trydan a’r tenant yn cael trydan am ddim yn ystod y dydd. Tynnodd sylw at gynllun o’r fath y mae Sharenergy yn gweithio arno yn Cannock Chase.

Roedd Mick Antoniw AC yn teimlo bod y drafodaeth wedi bod yn ddefnyddiol iawn, ac y byddai’n ystyried y materion a godwyd pan fydd yn mynd ar ymweliad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd â’r Almaen i astudio cynlluniau ynni gwyrdd yn ddiweddarach y mis hwn.

Gan nad oedd unrhyw gwestiynau pellach, daeth Mick Antoniw AC â’r cyfarfod i ben am 13.15 a diolchodd i bawb am eu presenoldeb.